> A yw 101 ar gael ym mhob rhan o Gymru?

Ar hyn o bryd, nid yw’r gwasanaeth hwn lle gellir rhoi gwybod am faterion nad ydynt yn rhai brys trwy deledu digidol rhyngweithiol a ffonau symudol ond ar gael yn ardal Heddlu Gwent fel rhan o arbrawf, gyda’r bwriad o’i gyflwyno ledled Cymru’n ddiweddarach.

Fodd bynnag, gellir rhoi gwybod am faterion nad ydynt yn rhai brys dros y ffôn trwy ddefnyddio’r rhif 101 o linellau tir, ffonau symudol a chiosgau ffôn yn unrhyw le yn ardaloedd y pedwar Gwasanaeth Heddlu yng Nghymru.

Os cewch anhawster wrth ddefnyddio gwasanaeth 101 o’ch ffôn symudol dylech gysylltu â’ch cwmni ffôn symudol i gael cymorth.