> A yw 101 yn mynd i ddisodli 999?
Na, 101 yw’r ffordd i gysylltu â’r Heddlu yng Nghymru pan nad oes gennych fater brys.
999 yw’r rhif ddylech ei ffonio pan fo angen ichi roi gwybod am achos brys fel trosedd sy’n digwydd ar y pryd, rhywun yn defnyddio trais neu’n bygwth gwneud hynny, sefyllfa lle y daethpwyd ar draws troseddwr neu pan fo’r troseddwr wedi dianc, neu pan fu damwain ffordd a phobl wedi cael eu hanafu neu’r ffordd wedi’i chau.