Tudalen 1 o 5 | next

Tai Gwarchod

Mae gan Tai Ceredigion dros 2200 eiddo ar hyd a lled Ceredigion, gan gynnwys Cynlluniau Tai Gwarchod mewn 9 o leoliadau gwahanol. Gall unrhyw un sydd dros 55 oed ac angen cymorth Cydlynydd Cynllun, neu sydd wedi’i gofrestru’n anabl wneud cais i fyw yn y cynlluniau hyn. Mae’r cynlluniau wedi’u bwriadu ar gyfer pobl sydd am barhau i fyw’n annibynnol, ond gyda’r opsiwn o gael cymorth ychwanegol os oes angen. Mae pob fflat yn hunangynhwysol gydag un neu ddwy ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin ac ystafell fyw. Yn ogystal mae system “Llinell Ofal” wedi’i gosod ym mhob eiddo, sy’n darparu modd i alw am gymorth trwy ddefnyddio cordyn tynnu yn yr eiddo neu larwm ar linyn a gaiff ei wisgo o amgylch y gwddf.