Sut mae cymryd rhan?
Mae Tai Ceredigion am i denantiaid gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau a llunio polisïau. Rydym yn gobeithio y byddwch chi, fel un o denantiaid Tai Ceredigion, yn barod i weithio gyda ni i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i chi, ein tenantiaid.
Chi sydd i benderfynu i ba raddau yr ydych yn dymuno cymryd rhan, a gallwch wneud hynny ar nifer o wahanol lefelau.