Tudalen 1 o 2 | next

Cynhwysiant ariannol

Rôl yr Ymgynghorydd Cynhwysiant Cymunedol yw cefnogi tenantiaid Tai Ceredigion, yn unigolion neu’n deuluoedd, i gael yr incwm mwyaf posibl i’w cartrefi a chael tenantiaeth lwyddiannus gyda Tai Ceredigion. Nod Tai Ceredigion yw rhoi cyngor ac arweiniad i denantiaid os ydynt yn cael trafferthion ag arian neu ddyled neu os oes trafferthion o’r fath yn effeithio arnynt.

Gall yr Ymgynghorydd Cynhwysiant Cymunedol helpu trwy sicrhau bod tenantiaid yn cael cyngor am fudd-daliadau a’u bod yn cael y budd-daliadau cywir trwy eu helpu i lenwi ffurflenni cais am fudd-daliadau a gwneud gwaith allweddol ar eu rhan gydag asiantaethau eraill.