Trais domestig
Mae Tai Ceredigion wedi mabwysiadu’r diffiniad canlynol o gam-drin domestig, yn unol â’r hyn a ddefnyddir gan gyrff statudol eraill:
“defnyddio trais, ceisio ei ddefnyddio neu fygwth ei ddefnyddio, boed yn drais corfforol, emosiynol, rhywiol, meddyliol neu economaidd, mewn perthynas agos a/neu berthynas deuluol”.
Mae Tai Ceredigion yn cydnabod bod trais domestig yn digwydd ar draws cymdeithas i bobl o bob oed, rhyw, hil, rhywioldeb neu gyfoeth a gall gynnwys y mathau canlynol o ymddygiad:
- Cam-drin corfforol gan gynnwys ymosod ar rywun
- Cam-drin rhywiol gan gynnwys achosion o dreisio a chyflawni gweithredoedd rhywiol heb gydsyniad